Ymateb y Llywodraeth: Cod Trefniadaeth Ysgolion

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y materion a godwyd gan y Pwyllgor. Er bod y mwyafrif o'r rhain yn bwyntiau golygyddol nad ydynt yn newid gweithrediad nac effaith y Cod, mae rhai materion sydd angen eu cywiro. Am y rheswm hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn tynnu'r Cod drafft yn ôl er mwyn gosod Cod drafft wedi'i gywiro ymhellach cyn gynted â phosibl yn ystod tymor y Senedd hon.

 

 

Byddwn yn gwneud diwygiadau i fynd i'r afael â'r holl bwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor, ac eithrio'r materion canlynol:

 

Pwynt adrodd 4:                             Bydd geiriad y testun Saesneg yn cael ei ddiwygio i ddileu "availability of" er mwyn sicrhau ei fod yn gyson â'r testun Cymraeg. Nid ydym yn credu bod angen diwygio'r pwynt bwled hwn ymhellach oherwydd, er nad yw'r geiriad yn union yr un fath, mae'r testun Cymraeg yn glir ac ni fyddai'n cael ei gamddeall.

 

Pwynt adrodd 6:                             Mae'r pwynt bwled yn dweud y gellid defnyddio'r termau "merger" neu "amalgamation" i gyfeirio at sefyllfa pan fo dwy neu ragor o ysgolion sydd eisoes yn bodoli yn dod yn un ysgol sy’n gweithredu ar fwy nag un safle. Caiff y gair "uno" ei ddefnyddio'n gyffredin yn y Gymraeg i ddisgrifio'r sefyllfa hon; fodd bynnag, byddwn yn ystyried a ddylid nodi "cyfuno" hefyd.

 

Pwynt adrodd 7:                             Nid ydym yn cytuno â'r pwynt gan ein bod o’r farn bod y dewis o air ym mhob pwynt bwled yn adlewyrchu cysyniad y pwynt bwled. Nid ydym o’r farn bod angen ei ddiwygio.

 

Pwynt adrodd 8:                             Nid ydym yn cytuno â'r pwynt gan ein bod o'r farn bod y testun Cymraeg yn glir ac yn osgoi ailadrodd diangen. Nid ydym o’r farn bod angen ei ddiwygio.

 

Pwynt adrodd 10:               Mewn perthynas â'r pwynt cyntaf yn y sylw hwn, rydym o'r farn bod y testun Cymraeg yn glir ac nid ydym yn credu bod angen ei ddiwygio. Mewn perthynas â'r ail bwynt yn y sylw hwn, rydym yn cytuno a byddwn yn diwygio'r mân anghysondeb.

 

Pwynt adrodd 14:               Nid ydym yn cytuno â'r pwynt gan nad yw'n gyfieithiad llythrennol oherwydd nad oes unrhyw un gair am "substitution" yn y Gymraeg.

 

Pwynt adrodd 15:               Nid ydym yn cytuno â'r pwynt gan nad yw'n gyfieithiad llythrennol, ond caiff yr elfen "possible" ei chynnwys yn y testun Cymraeg drwy'r gair "cynnig". Mae'r testun Cymraeg yn cyfieithu fel "the proposal to close such schools".